Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 38:19-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Yna, wedi iddi godi a mynd ymaith, tynnodd ei gorchudd a rhoi amdani wisg ei gweddwdod.

20. Anfonodd Jwda y myn gafr yng ngofal ei gyfaill yr Adulamiad, er mwyn cael y gwystl yn ôl gan y wraig, ond ni allai ddod o hyd iddi.

21. Holodd ddynion y lle a dweud, “Ble mae'r butain y cysegr oedd ar y ffordd yn Enaim?” Ac atebasant, “Nid oes putain y cysegr yma.”

22. Felly dychwelodd at Jwda a dweud, “Ni chefais hyd iddi; a dywedodd dynion y lle nad oedd putain y cysegr yno.”

23. Yna dywedodd Jwda, “Bydded iddi eu cadw, neu byddwn yn destun cywilydd; anfonais i y myn hwn, ond methaist gael hyd iddi.”

24. Ymhen tri mis dywedwyd wrth Jwda, “Bu Tamar dy ferch-yng-nghyfraith yn puteinio, ac y mae wedi beichiogi hefyd mewn godineb.” Dywedodd Jwda, “Dewch â hi allan, a llosger hi.”

25. A phan ddaethant â hi allan, anfonodd at ei thad-yng-nghyfraith i ddweud, “Yr wyf yn feichiog o'r gŵr biau'r rhain.” A dywedodd hefyd, “Edrych, yn awr, eiddo pwy yw'r rhain, y sêl a'r llinyn a'r ffon.”

26. Adnabu Jwda hwy a dywedodd, “Y mae hi'n fwy cyfiawn na mi, oherwydd na rois hi i'm mab Sela.” Ni orweddodd gyda hi ar ôl hynny.

27. Pan ddaeth yr amser iddi esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth,

28. ac wrth iddi esgor rhoes un ei law allan; a chymerodd y fydwraig edau goch a'i rhwymo am ei law, a dweud, “Hwn a ddaeth allan yn gyntaf.”

29. Ond tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan; a dywedodd hi, “Dyma doriad yr wyt wedi ei wneud i ti dy hun!” Ac enwyd ef Peres.

30. Daeth ei frawd allan wedyn â'r edau goch am ei law, ac enwyd ef Sera.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 38