Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 37:24-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.

25. Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud pêr, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft.

26. A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, “Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed?

27. Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn â gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw.” Cytunodd ei frodyr.

28. Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau â Joseff i'r Aifft.

29. Pan aeth Reuben yn ôl at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad

30. a mynd at ei frodyr a dweud, “Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?”

31. Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed.

32. Yna aethant â'r wisg laes yn ôl at eu tad, a dweud, “Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw.”

33. Fe'i hadnabu a dywedodd, “Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio.”

34. Yna rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei lwynau, a galarodd am ei fab am amser hir.

35. A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, “Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab.” Ac wylodd ei dad amdano.

36. Gwerthodd y Midianiaid ef yn yr Aifft i Potiffar, swyddog Pharo, pennaeth y gwarchodwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 37