8. A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth.
9. Ymddangosodd Duw eto i Jacob, ar ôl iddo ddod o Padan Aram, a'i fendithio.
10. Dywedodd Duw wrtho, “Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw.” Ac enwyd ef Israel.
11. A dywedodd Duw wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau.
12. Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy ôl.”
13. Yna aeth Duw i fyny o'r man lle bu'n llefaru wrtho.
14. A gosododd Jacob golofn, sef colofn garreg, yn y lle y llefarodd wrtho; tywalltodd arni ddiodoffrwm, ac arllwys olew arni.
15. Felly enwodd Jacob y lle y llefarodd Duw wrtho, Bethel.
16. Yna aethant o Fethel. Pan oedd eto beth ffordd o Effrath, esgorodd Rachel, a bu'n galed arni wrth esgor.
17. A phan oedd yn ei gwewyr, dywedodd y fydwraig wrthi, “Paid ag ofni, oherwydd mab arall sydd gennyt.”