Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 35:18-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin.

19. Yna bu farw Rachel, a chladdwyd hi ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem,

20. a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw.

21. Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder.

22. Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn.Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob.

23. Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.

24. Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.

25. Meibion Bilha morwyn Rachel: Dan a Nafftali.

26. Meibion Silpa morwyn Lea: Gad ac Aser. Dyma'r meibion a anwyd iddo yn Padan Aram.

27. Daeth Jacob at ei dad Isaac i Mamre, neu Ciriath-arba, hynny yw Hebron, lle bu Abraham ac Isaac yn aros dros dro.

28. Cant a phedwar ugain oedd oed Isaac.

29. Yna anadlodd Isaac ei anadl olaf, a bu farw, a'i gasglu at ei bobl yn hen ac oedrannus. Claddwyd ef gan ei feibion Esau a Jacob.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 35