Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 34:19-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. nid oedodd y llanc wneud hyn, oherwydd yr oedd wedi rhoi ei serch ar ferch Jacob, ac ef oedd y mwyaf anrhydeddus o'i holl deulu.

20. A daeth Hamor a'i fab Sichem at borth y ddinas a llefaru wrth wŷr y ddinas a dweud,

21. “Y mae'r gwŷr hyn yn gyfeillgar â ni; gadewch iddynt fyw yn y wlad a marchnata ynddi, oherwydd y mae'r wlad yn ddigon eang iddynt; cymerwn eu merched yn wragedd, a rhown ninnau ein merched iddynt hwythau.

22. Ond ar yr amod hwn yn unig y cytuna'r gwŷr i fyw gyda ni a bod yn un bobl: sef ein bod yn enwaedu pob gwryw yn ein plith, fel y maent hwy wedi eu henwaedu.

23. Oni fydd eu gwartheg a'u meddiannau a'u holl anifeiliaid yn eiddo i ni? Gadewch inni gytuno â hwy fel y gallant gyd-fyw â ni.”

24. Gwrandawodd pob un oedd yn mynd trwy borth y ddinas ar Hamor a'i fab Sichem, ac enwaedwyd pob gwryw yn y ddinas.

25. Ar y trydydd dydd, pan oedd y dynion yn ddolurus, cymerodd dau o feibion Jacob, sef Simeon a Lefi brodyr Dina, eu cleddyfau a mynd yn rhwydd i mewn i'r ddinas a lladd pob gwryw.

26. Lladdasant Hamor a'i fab Sichem â min y cleddyf, a chymryd Dina o dŷ Sichem a mynd ymaith.

27. Rheibiodd meibion Jacob y lladdedigion, ac ysbeilio'r ddinas, am iddynt halogi eu chwaer.

28. Cymerasant y defaid a'r ychen a'r asynnod, a phob peth oedd yn y ddinas ac yn y maes;

29. cipiasant eu holl gyfoeth, a'r plant bychain a'r gwragedd, ac ysbeilio pob dim oedd yn y tai.

30. Yna dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi, “Yr ydych wedi dwyn helbul ar fy mhen a'm gwneud yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, y Canaaneaid a'r Peresiaid; y mae nifer fy mhobl yn fach, ac os ymgasglant yn fy erbyn ac ymosod arnaf, yna difethir fi a'm teulu.”

31. Ond dywedasant hwythau, “A oedd i gael trin ein chwaer fel putain?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 34