Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 32:15-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. deg ar hugain o gamelod magu a'u llydnod, deugain o wartheg a deg o deirw, ugain o asennod a deg asyn.

16. Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf.”

17. Gorchmynnodd i'r cyntaf, “Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, ‘I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?’

18. yna dywed, ‘Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.’ ”

19. Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, “Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod,

20. ‘Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.’ ” Hyn oedd yn ei feddwl: “Enillaf ei ffafr â'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn.”

21. Felly anfonodd yr anrheg o'i flaen, ond treuliodd ef y noson honno yn y gwersyll.

22. Yn ystod y noson honno cododd Jacob a chymryd ei ddwy wraig, ei ddwy forwyn a'i un mab ar ddeg, a chroesi rhyd Jabboc.

23. Wedi iddo'u cymryd a'u hanfon dros yr afon, anfonodd ei eiddo drosodd hefyd.

24. Gadawyd Jacob ei hunan, ac ymgodymodd gŵr ag ef hyd doriad y wawr.

25. Pan welodd y gŵr nad oedd yn cael y trechaf arno, trawodd wasg ei glun, a datgysylltwyd clun Jacob wrth iddo ymgodymu ag ef.

26. Yna dywedodd y gŵr, “Gollwng fi, oherwydd y mae'n gwawrio.” Ond atebodd yntau, “Ni'th ollyngaf heb iti fy mendithio.”

27. “Beth yw d'enw?” meddai ef. Ac atebodd yntau, “Jacob.”

28. Yna dywedodd, “Ni'th elwir Jacob mwyach, ond Israel, oherwydd yr wyt wedi ymdrechu â Duw a dynion, ac wedi gorchfygu.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 32