11. Yna dywedodd angel Duw wrthyf yn fy mreuddwyd, ‘Jacob.’ Atebais innau, ‘Dyma fi.’
12. Yna dywedodd, ‘Cod dy olwg ac edrych; y mae'r holl hyrddod sy'n llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc; yr wyf wedi gweld popeth y mae Laban yn ei wneud i ti.
13. Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.’ ”
14. Yna atebodd Rachel a Lea ef, “A oes i ni bellach ran neu etifeddiaeth yn nhÅ· ein tad?
15. Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian.
16. Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt.”
17. Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod;
18. a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo, a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac.
19. Yr oedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid, a lladrataodd Rachel ddelwau'r teulu oedd yn perthyn i'w thad.
20. Felly bu i Jacob dwyllo Laban yr Aramead trwy ffoi heb ddweud wrtho.
21. Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.
22. Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi.
23. Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead.
24. Ond daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.”