Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:6-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, “Clywais dy dad yn siarad â'th frawd Esau ac yn dweud,

7. ‘Tyrd â helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.’

8. Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti.

9. Dos i blith y praidd, a thyrd â dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi,

10. a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.”

11. Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, “Ond y mae Esau yn ŵr blewog, a minnau'n ŵr llyfn.

12. Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof â melltith arnaf fy hun yn lle bendith.”

13. Meddai ei fam wrtho, “Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd â'r geifr ataf.”

14. Felly aeth, a dod â hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi.

15. Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tŷ, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf;

16. a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn;

17. yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi.

18. Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?”

19. Dywedodd Jacob wrth ei dad, “Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi.”

20. A dywedodd Isaac wrth ei fab, “Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?” Atebodd yntau, “Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer.”

21. Yna dywedodd Isaac wrth Jacob, “Tyrd yn nes, er mwyn imi dy deimlo, fy mab, a gwybod ai ti yw fy mab Esau ai peidio.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27