5. Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad â'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad,
6. dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, “Clywais dy dad yn siarad â'th frawd Esau ac yn dweud,
7. ‘Tyrd â helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.’
8. Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti.
9. Dos i blith y praidd, a thyrd â dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi,
10. a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.”
11. Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, “Ond y mae Esau yn ŵr blewog, a minnau'n ŵr llyfn.
12. Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof â melltith arnaf fy hun yn lle bendith.”
13. Meddai ei fam wrtho, “Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd â'r geifr ataf.”
14. Felly aeth, a dod â hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi.