Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:33-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, “Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef.”

34. Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, “Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.”

35. Ond dywedodd ef, “Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith.”

36. Ac meddai Esau, “Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith.” Yna dywedodd, “Onid oes gennyt fendith ar ôl i minnau?”

37. Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, “Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac ŷd a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?”

38. A dywedodd Esau wrth ei dad, “Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.” A chododd Esau ei lais ac wylo.

39. Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho:“Wele, bydd dy gartref heb fraster daear,a heb wlith y nef oddi uchod.

40. Wrth dy gleddyf y byddi fyw,ac fe wasanaethi dy frawd;ond pan ddoi'n rhydd,fe dorri ei iau oddi ar dy wddf.”

41. A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, “Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob.”

42. Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, “Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd.

43. Yn awr, fy mab, gwrando arnaf; cod, a ffo i Haran at fy mrawd Laban,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27