Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:32-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. Gofynnodd ei dad Isaac iddo, “Pwy wyt ti?” Atebodd yntau, “Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi.”

33. Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, “Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef.”

34. Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, “Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.”

35. Ond dywedodd ef, “Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith.”

36. Ac meddai Esau, “Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith.” Yna dywedodd, “Onid oes gennyt fendith ar ôl i minnau?”

37. Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, “Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac ŷd a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?”

38. A dywedodd Esau wrth ei dad, “Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.” A chododd Esau ei lais ac wylo.

39. Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho:“Wele, bydd dy gartref heb fraster daear,a heb wlith y nef oddi uchod.

40. Wrth dy gleddyf y byddi fyw,ac fe wasanaethi dy frawd;ond pan ddoi'n rhydd,fe dorri ei iau oddi ar dy wddf.”

41. A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, “Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob.”

42. Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, “Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd.

43. Yn awr, fy mab, gwrando arnaf; cod, a ffo i Haran at fy mrawd Laban,

44. ac aros dros dro gydag ef, nes bod llid dy frawd wedi cilio.

45. Yna pan fydd dicter dy frawd wedi cilio, ac yntau wedi anghofio'r hyn a wnaethost, mi anfonaf i'th gyrchu oddi yno. Pam y caf fy amddifadu ohonoch eich dau mewn un diwrnod?”

46. Dywedodd Rebeca wrth Isaac, “Yr wyf wedi blino byw o achos merched yr Hethiaid. Os prioda Jacob wraig o blith merched yr Hethiaid fel un o'r rhain, sef un o ferched y wlad, i beth y byddaf fyw?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27