Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ond nid adnabu mohono, am fod ei ddwylo'n flewog fel dwylo Esau ei frawd; felly bendithiodd ef.

24. A dywedodd, “Ai ti yn wir yw fy mab Esau?” Atebodd yntau, “Myfi yw.”

25. Dywedodd yntau, “Tyrd â'r helfa ataf, fy mab, imi gael bwyta a'th fendithio.” Daeth ag ef ato, a bwytaodd yntau; a daeth â gwin iddo, ac yfodd.

26. A dywedodd ei dad Isaac wrtho, “Tyrd yn nes a chusana fi, fy mab.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27