22. Nesaodd Jacob at Isaac ei dad, a theimlodd yntau ef a dweud, “Llais Jacob yw'r llais, ond dwylo Esau yw'r dwylo.”
23. Ond nid adnabu mohono, am fod ei ddwylo'n flewog fel dwylo Esau ei frawd; felly bendithiodd ef.
24. A dywedodd, “Ai ti yn wir yw fy mab Esau?” Atebodd yntau, “Myfi yw.”
25. Dywedodd yntau, “Tyrd â'r helfa ataf, fy mab, imi gael bwyta a'th fendithio.” Daeth ag ef ato, a bwytaodd yntau; a daeth â gwin iddo, ac yfodd.
26. A dywedodd ei dad Isaac wrtho, “Tyrd yn nes a chusana fi, fy mab.”
27. Felly nesaodd a chusanodd ef; clywodd yntau arogl ei wisgoedd, a bendithiodd ef, a dweud:“Dyma arogl fy mab,fel arogl maes a fendithiodd yr ARGLWYDD.
28. Rhodded Duw iti o wlith y nefoedd,o fraster y ddaear, a digon o ŷd a gwin.
29. Bydded i bobloedd dy wasanaethu di,ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen;bydd yn arglwydd ar dy frodyr,ac ymgrymed meibion dy fam iti.Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio,a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio.”
30. Wedi i Isaac orffen bendithio Jacob, a Jacob ond prin wedi mynd allan o ŵydd ei dad Isaac, daeth ei frawd Esau i mewn o'i hela.
31. Gwnaeth yntau luniaeth blasus, a mynd ag ef i'w dad, a dweud wrtho, “Cod, fy nhad, a bwyta o helfa dy fab, a bendithia fi.”
32. Gofynnodd ei dad Isaac iddo, “Pwy wyt ti?” Atebodd yntau, “Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi.”
33. Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, “Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef.”
34. Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, “Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.”
35. Ond dywedodd ef, “Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith.”