Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 27:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan oedd Isaac yn hen a'i lygaid wedi pylu fel nad oedd yn gweld, galwodd ar Esau ei fab hynaf, a dweud wrtho, “Fy mab.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”

2. A dywedodd Isaac, “Yr wyf wedi mynd yn hen, ac ni wn pa ddiwrnod y byddaf farw.

3. Cymer yn awr dy arfau, dy gawell saethau a'th fwa, a dos i'r maes i hela bwyd i mi,

4. a gwna i mi y lluniaeth blasus sy'n hoff gennyf, a thyrd ag ef imi i'w fwyta; yna bendithiaf di cyn imi farw.”

5. Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad â'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad,

6. dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, “Clywais dy dad yn siarad â'th frawd Esau ac yn dweud,

7. ‘Tyrd â helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.’

8. Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti.

9. Dos i blith y praidd, a thyrd â dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi,

10. a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.”

11. Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, “Ond y mae Esau yn ŵr blewog, a minnau'n ŵr llyfn.

12. Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof â melltith arnaf fy hun yn lle bendith.”

13. Meddai ei fam wrtho, “Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd â'r geifr ataf.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 27