Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 26:3-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham.

4. Amlhaf dy ddisgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion.

5. Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau.”

6. Felly arhosodd Isaac yn Gerar.

7. Pan ofynnodd gwŷr y lle ynghylch ei wraig, dywedodd, “Fy chwaer yw hi”, am fod arno ofn dweud, “Fy ngwraig yw hi”, rhag i wŷr y lle ei ladd o achos Rebeca; oherwydd yr oedd hi'n brydferth.

8. Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.

9. Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, “Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’?” Dywedodd Isaac wrtho, “Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi.”

10. Dywedodd Abimelech, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom.”

11. Felly rhybuddiodd Abimelech yr holl bobl a dweud, “Lleddir y sawl a gyffyrdda â'r gŵr hwn neu â'i wraig.”

12. Heuodd Isaac yn y tir hwnnw, a medi'r flwyddyn honno ar ei ganfed, a bendithiodd yr ARGLWYDD ef.

13. Llwyddodd y gŵr, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn.

14. Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho.

15. Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd,

16. a dywedodd Abimelech wrth Isaac, “Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni.”

17. Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno.

18. Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau dŵr a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar ôl marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau â'i dad.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 26