Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?”

6. Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno.

7. Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, ‘Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion’, bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24