Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:36-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Ac y mae Sara gwraig fy meistr wedi geni mab iddo yn ei henaint; ac y mae fy meistr wedi rhoi ei holl eiddo i hwnnw.

37. Parodd fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dywedodd, ‘Paid â chymryd gwraig i'm mab o blith merched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu gwlad;

38. ond dos i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab.’

39. Dywedais wrth fy meistr, ‘Efallai na ddaw'r wraig ar fy ôl.’

40. Ond dywedodd yntau wrthyf, ‘Bydd yr ARGLWYDD, yr wyf yn rhodio ger ei fron, yn anfon ei angel gyda thi ac yn llwyddo dy daith. Os cymeri wraig i'm mab o'm tylwyth ac o dŷ fy nhad,

41. yna byddi'n rhydd oddi wrth fy llw; os doi at fy nhylwyth, a hwythau'n gwrthod ei rhoi iti, byddi hefyd yn rhydd oddi wrth fy llw.’

42. Pan ddeuthum heddiw at y ffynnon, dywedais, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt am lwyddo fy nhaith yn awr,

43. tra wyf yn sefyll wrth y ffynnon ddŵr, bydded mai'r ferch ifanc a ddaw allan i godi dŵr ac yna, pan ddywedaf wrthi, “Rho i mi ychydig ddŵr i'w yfed o'th stên”,

44. fydd yn ateb, “Yf, a chodaf ddŵr i'th gamelod hefyd”, bydded mai honno fydd y wraig y mae'r ARGLWYDD wedi ei darparu i fab fy meistr.’

45. Cyn i mi orffen gwneud fy nghais, dyma Rebeca yn dod allan â'i stên ar ei hysgwydd; aeth i lawr at y ffynnon a chodi dŵr. Dywedais wrthi, ‘Gad imi yfed.’

46. Brysiodd hithau i ostwng ei stên oddi ar ei hysgwydd, a dywedodd, ‘Yf, a rhof ddiod i'th gamelod hefyd.’ Yfais, a rhoes hithau ddiod i'r camelod.

47. Yna gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ Ac meddai hithau, ‘Merch Bethuel fab Nachor a Milca.’ Yna gosodais y fodrwy yn ei thrwyn, a'r breichledau am ei garddyrnau.

48. Ymgrymais i addoli'r ARGLWYDD, a bendithiais yr ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, a arweiniodd fi yn y ffordd iawn i gymryd merch brawd fy meistr i'w fab.

49. Yn awr, os ydych am wneud caredigrwydd a ffyddlondeb i'm meistr, dywedwch wrthyf; ac onid e, dywedwch wrthyf, fel y gallaf droi ar y llaw dde neu'r chwith.”

50. Yna atebodd Laban a Bethuel, a dweud, “Oddi wrth yr ARGLWYDD y daeth hyn; ni allwn ni ddweud dim wrthyt, na drwg na da.

51. Dyma Rebeca o'th flaen; cymer hi a dos. A bydded yn wraig i fab dy feistr, fel y dywedodd yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24