Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 24:30-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Pan welodd y fodrwy, a'r breichledau ar arddyrnau ei chwaer, a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca am yr hyn a ddywedodd y gŵr wrthi, aeth at y gŵr oedd yn sefyll gyda'r camelod wrth y ffynnon.

31. Dywedodd, “Tyrd i'r tŷ, fendigedig yr ARGLWYDD; pam yr wyt yn sefyll y tu allan, a minnau wedi paratoi'r tŷ, a lle i'r camelod?”

32. Pan ddaeth y gŵr at y tŷ, gollyngodd Laban y camelod, ac estyn gwellt a phorthiant iddynt, a rhoi dŵr i'r gŵr a'r dynion oedd gydag ef i olchi eu traed.

33. Pan osodwyd bwyd o'i flaen, dywedodd y gŵr, “Nid wyf am fwyta nes imi ddweud fy neges.” Ac meddai Laban, “Traetha.”

34. Dywedodd, “Gwas Abraham wyf fi.

35. Y mae'r ARGLWYDD wedi bendithio fy meistr yn helaeth, ac y mae yntau wedi llwyddo; y mae wedi rhoi iddo ddefaid ac ychen, arian ac aur, gweision a morynion, camelod ac asynnod.

36. Ac y mae Sara gwraig fy meistr wedi geni mab iddo yn ei henaint; ac y mae fy meistr wedi rhoi ei holl eiddo i hwnnw.

37. Parodd fy meistr i mi fynd ar fy llw, a dywedodd, ‘Paid â chymryd gwraig i'm mab o blith merched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu gwlad;

38. ond dos i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab.’

39. Dywedais wrth fy meistr, ‘Efallai na ddaw'r wraig ar fy ôl.’

40. Ond dywedodd yntau wrthyf, ‘Bydd yr ARGLWYDD, yr wyf yn rhodio ger ei fron, yn anfon ei angel gyda thi ac yn llwyddo dy daith. Os cymeri wraig i'm mab o'm tylwyth ac o dŷ fy nhad,

41. yna byddi'n rhydd oddi wrth fy llw; os doi at fy nhylwyth, a hwythau'n gwrthod ei rhoi iti, byddi hefyd yn rhydd oddi wrth fy llw.’

42. Pan ddeuthum heddiw at y ffynnon, dywedais, ‘O ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, os wyt am lwyddo fy nhaith yn awr,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 24