Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 22:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab.

11. Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.”

12. A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.”

13. Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab.

14. Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”

15. Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham,

16. a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab,

17. bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion,

18. a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.”

19. Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.

20. Wedi'r pethau hyn, mynegwyd i Abraham, “Y mae Milca wedi geni plant i'th frawd Nachor:

21. Hus ei gyntafanedig, a'i frawd Bus, Cemuel tad Aram,

22. Cesed, Haso, Pildas, Idlaff, a Bethuel.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 22