Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 22:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham.

2. “Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.”

3. Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho.

4. Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell.

5. Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.”

6. Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y tân a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd.

7. Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Ie, fy mab?” Ac meddai Isaac, “Dyma'r tân a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?”

8. Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.

9. Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 22