Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 2:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd,

17. ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”

18. Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.”

19. Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.

20. Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.

21. Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle â chnawd;

22. ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth â hi at y dyn.

23. A dywedodd y dyn,“Dyma hi!Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd.Gelwir hi yn wraig,am mai o ŵr y cymerwyd hi.”

24. Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.

25. Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 2