Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:5-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. ac yr oeddent yn galw ar Lot, ac yn dweud wrtho, “Ble mae'r gwŷr a ddaeth atat heno? Tyrd â hwy allan atom, inni gael cyfathrach â hwy.”

6. Aeth Lot i'r drws atynt, a chau'r drws ar ei ôl,

7. a dywedodd, “Fy mrodyr, peidiwch â gwneud y drwg hwn.

8. Edrychwch, y mae gennyf ddwy ferch heb gael cyfathrach â gŵr; dof â hwy allan atoch. Cewch wneud iddynt hwy fel y dymunwch, ond peidiwch â gwneud dim i'r gwŷr hyn, gan eu bod wedi dod dan gysgod fy nghronglwyd.”

9. Ond meddant hwy, “Saf yn ôl! Ai un a ddaeth yma i fyw dros dro sydd i ddatgan barn? Yn awr, gwnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy.” Yr oedd y dynion yn gwasgu mor drwm ar Lot fel y bu bron iddynt dorri'r drws.

10. Ond estynnodd y gwŷr eu dwylo, a thynnu Lot atynt i'r tŷ a chau'r drws.

11. A thrawsant yn ddall y dynion oedd wrth ddrws y tŷ, yn fawr a bach, nes iddynt flino chwilio am y drws.

12. Yna dywedodd y gwŷr wrth Lot, “Pwy arall sydd gennyt yma? Dos â'th feibion-yng-nghyfraith, dy feibion a'th ferched, a phwy bynnag sydd gennyt yn y ddinas, allan o'r lle hwn,

13. oherwydd yr ydym ar fin ei ddinistrio. Am fod y gŵyn yn fawr yn eu herbyn gerbron yr ARGLWYDD, fe anfonodd yr ARGLWYDD ni i ddinistrio'r lle hwn.”

14. Felly aeth Lot allan a dweud wrth ei feibion-yng-nghyfraith, a oedd am briodi ei ferched, “Codwch, ewch allan o'r lle hwn; y mae'r ARGLWYDD ar fin dinistrio'r ddinas.” Ond yng ngolwg ei feibion-yng-nghyfraith yr oedd Lot fel un yn cellwair.

15. Ar doriad gwawr, bu'r angylion yn erfyn ar Lot, gan ddweud, “Cod, cymer dy wraig a'r ddwy ferch sydd gyda thi, rhag dy ddifa pan gosbir y ddinas.”

16. Yr oedd yntau'n oedi, ond gan fod yr ARGLWYDD yn tosturio wrtho, cydiodd y gwŷr yn ei law ac yn llaw ei wraig a'i ddwy ferch, a'u harwain a'u gosod y tu allan i'r ddinas.

17. Wedi iddynt eu dwyn allan, dywedodd un, “Dianc am dy einioes; paid ag edrych yn ôl, na sefyllian yn y gwastadedd; dianc i'r mynydd rhag dy ddifa.”

18. Ac meddai Lot, “Na! Nid felly, f'arglwydd;

19. dyma dy was wedi cael ffafr yn d'olwg, a gwnaethost drugaredd fawr â mi yn arbed fy einioes; ond ni allaf ddianc i'r mynydd, rhag i'r niwed hwn fy ngoddiweddyd ac imi farw.

20. Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19