Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:20-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?”

21. Atebodd yntau, “o'r gorau, caniatâf y dymuniad hwn hefyd, ac ni ddinistriaf y ddinas a grybwyllaist.

22. Dianc yno ar frys; oherwydd ni allaf wneud dim nes i ti gyrraedd yno.” Am hynny, galwyd y ddinas Soar.

23. Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir;

24. yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra.

25. Dinistriodd y dinasoedd hynny a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chynnyrch y pridd.

26. Ond yr oedd gwraig Lot wedi edrych yn ei hôl, a throdd yn golofn halen.

27. Aeth Abraham yn y bore bach i'r fan lle'r oedd wedi sefyll gerbron yr ARGLWYDD;

28. ac edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra ac ar holl dir y gwastadedd, a gwelodd fwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrn.

29. Felly pan oedd Duw'n dinistrio dinasoedd y gwastadedd, yr oedd wedi cofio am Abraham, a phan oedd yn dinistrio'r dinasoedd y bu Lot yn trigo ynddynt, gyrrodd Lot allan o ganol y dinistr.

30. Yna aeth Lot i fyny o Soar i fyw yn y mynydd-dir gyda'i ddwy ferch, oherwydd yr oedd arno ofn aros yn Soar; a bu'n byw mewn ogof gyda'i ddwy ferch.

31. Dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, “Y mae ein tad yn hen, ac nid oes ŵr yn y byd i ddod atom yn ôl arfer yr holl ddaear.

32. Tyrd, rhown win i'n tad i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad.”

33. Felly y noson honno rhoesant win i'w tad i'w yfed; a daeth yr hynaf a gorwedd gyda'i thad, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.

34. Trannoeth dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, “Dyna fi wedi gorwedd gyda'm tad neithiwr; gad inni roi gwin iddo i'w yfed eto heno, a dos dithau i orwedd gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad.”

35. Felly rhoesant win i'w tad i'w yfed y noson honno hefyd; ac aeth yr ieuengaf i orwedd gydag ef, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19