15. Ar doriad gwawr, bu'r angylion yn erfyn ar Lot, gan ddweud, “Cod, cymer dy wraig a'r ddwy ferch sydd gyda thi, rhag dy ddifa pan gosbir y ddinas.”
16. Yr oedd yntau'n oedi, ond gan fod yr ARGLWYDD yn tosturio wrtho, cydiodd y gwŷr yn ei law ac yn llaw ei wraig a'i ddwy ferch, a'u harwain a'u gosod y tu allan i'r ddinas.
17. Wedi iddynt eu dwyn allan, dywedodd un, “Dianc am dy einioes; paid ag edrych yn ôl, na sefyllian yn y gwastadedd; dianc i'r mynydd rhag dy ddifa.”
18. Ac meddai Lot, “Na! Nid felly, f'arglwydd;
19. dyma dy was wedi cael ffafr yn d'olwg, a gwnaethost drugaredd fawr â mi yn arbed fy einioes; ond ni allaf ddianc i'r mynydd, rhag i'r niwed hwn fy ngoddiweddyd ac imi farw.
20. Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?”
21. Atebodd yntau, “o'r gorau, caniatâf y dymuniad hwn hefyd, ac ni ddinistriaf y ddinas a grybwyllaist.
22. Dianc yno ar frys; oherwydd ni allaf wneud dim nes i ti gyrraedd yno.” Am hynny, galwyd y ddinas Soar.
23. Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir;
24. yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra.