Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 19:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth y ddau angel i Sodom gyda'r hwyr, tra oedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan welodd Lot hwy, cododd i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,

2. a dweud, “F'arglwyddi, trowch i mewn i dŷ eich gwas dros nos, a golchwch eich traed; yna cewch godi'n fore a mynd ar eich taith.” Dywedasant hwy, “Na, arhoswn heno yn yr heol.”

3. Ond am iddo erfyn yn daer arnynt, troesant i mewn i'w dŷ; gwnaeth yntau wledd iddynt a phobi bara croyw, a bwytasant.

4. Ond cyn iddynt fynd i orwedd, amgylchwyd y tŷ gan ddynion Sodom, pawb o bob cwr o'r ddinas, yn hen ac ifanc;

5. ac yr oeddent yn galw ar Lot, ac yn dweud wrtho, “Ble mae'r gwŷr a ddaeth atat heno? Tyrd â hwy allan atom, inni gael cyfathrach â hwy.”

6. Aeth Lot i'r drws atynt, a chau'r drws ar ei ôl,

7. a dywedodd, “Fy mrodyr, peidiwch â gwneud y drwg hwn.

8. Edrychwch, y mae gennyf ddwy ferch heb gael cyfathrach â gŵr; dof â hwy allan atoch. Cewch wneud iddynt hwy fel y dymunwch, ond peidiwch â gwneud dim i'r gwŷr hyn, gan eu bod wedi dod dan gysgod fy nghronglwyd.”

9. Ond meddant hwy, “Saf yn ôl! Ai un a ddaeth yma i fyw dros dro sydd i ddatgan barn? Yn awr, gwnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy.” Yr oedd y dynion yn gwasgu mor drwm ar Lot fel y bu bron iddynt dorri'r drws.

10. Ond estynnodd y gwŷr eu dwylo, a thynnu Lot atynt i'r tŷ a chau'r drws.

11. A thrawsant yn ddall y dynion oedd wrth ddrws y tŷ, yn fawr a bach, nes iddynt flino chwilio am y drws.

12. Yna dywedodd y gwŷr wrth Lot, “Pwy arall sydd gennyt yma? Dos â'th feibion-yng-nghyfraith, dy feibion a'th ferched, a phwy bynnag sydd gennyt yn y ddinas, allan o'r lle hwn,

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 19