1. Daeth y ddau angel i Sodom gyda'r hwyr, tra oedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan welodd Lot hwy, cododd i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,
2. a dweud, “F'arglwyddi, trowch i mewn i dŷ eich gwas dros nos, a golchwch eich traed; yna cewch godi'n fore a mynd ar eich taith.” Dywedasant hwy, “Na, arhoswn heno yn yr heol.”
3. Ond am iddo erfyn yn daer arnynt, troesant i mewn i'w dŷ; gwnaeth yntau wledd iddynt a phobi bara croyw, a bwytasant.
4. Ond cyn iddynt fynd i orwedd, amgylchwyd y tŷ gan ddynion Sodom, pawb o bob cwr o'r ddinas, yn hen ac ifanc;
5. ac yr oeddent yn galw ar Lot, ac yn dweud wrtho, “Ble mae'r gwŷr a ddaeth atat heno? Tyrd â hwy allan atom, inni gael cyfathrach â hwy.”
6. Aeth Lot i'r drws atynt, a chau'r drws ar ei ôl,
7. a dywedodd, “Fy mrodyr, peidiwch â gwneud y drwg hwn.
8. Edrychwch, y mae gennyf ddwy ferch heb gael cyfathrach â gŵr; dof â hwy allan atoch. Cewch wneud iddynt hwy fel y dymunwch, ond peidiwch â gwneud dim i'r gwŷr hyn, gan eu bod wedi dod dan gysgod fy nghronglwyd.”
9. Ond meddant hwy, “Saf yn ôl! Ai un a ddaeth yma i fyw dros dro sydd i ddatgan barn? Yn awr, gwnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy.” Yr oedd y dynion yn gwasgu mor drwm ar Lot fel y bu bron iddynt dorri'r drws.
10. Ond estynnodd y gwŷr eu dwylo, a thynnu Lot atynt i'r tŷ a chau'r drws.