Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Dyma fy nghyfamod rhyngof fi a chwi, yr ydych i'w gadw, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl: y mae pob gwryw ohonoch i'w enwaedu.

11. Enwaedir chwi yng nghnawd eich blaengrwyn, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngom.

12. Dros eich cenedlaethau, fe enwaedir pob gwryw ohonoch sydd yn wyth diwrnod oed, boed wedi ei eni i'r teulu, neu'n ddieithryn heb fod yn un o'th ddisgynyddion, ond a brynwyd ag arian.

13. Rhaid enwaedu'r sawl a enir i'r teulu, a'r sawl a brynir â'th arian; a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd yn gyfamod tragwyddol.

14. Y mae unrhyw wryw dienwaededig nad enwaedwyd cnawd ei flaengroen, i'w dorri ymaith o blith ei bobl; y mae wedi torri fy nghyfamod.”

15. Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw.

16. Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.”

17. Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?”

18. A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!”

19. Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl.

20. Ynglŷn ag Ismael: yr wyf wedi gwrando arnat, a bendithiaf yntau a'i wneud yn ffrwythlon a'i amlhau'n ddirfawr; bydd yn dad i ddeuddeg tywysog, a gwnaf ef yn genedl fawr.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17