Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 17:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron a bydd berffaith.

2. Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.”

3. Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud,

4. “Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd,

5. ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 17