3. A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni.
4. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch.
5. Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
6. Yna dywedodd Duw, “Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd.”
7. A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly.
8. Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd.
9. Yna dywedodd Duw, “Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych.” A bu felly.
10. Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
11. Dywedodd Duw, “Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly.
12. Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn ôl eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
13. A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd.
14. Yna dywedodd Duw, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.
15. Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear.” A bu felly.