11. Dywedodd Duw, “Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly.
12. Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn ôl eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth â had ynddo, yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
13. A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd.
14. Yna dywedodd Duw, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.
15. Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear.” A bu felly.
16. Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y sêr hefyd.
17. A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,
18. i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
19. A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd.
20. Yna dywedodd Duw, “Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd.”
21. A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn ôl eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn ôl ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
22. Bendithiodd Duw hwy a dweud, “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear.”
23. A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd.
24. Yna dywedodd Duw, “Dyged y ddaear greaduriaid byw yn ôl eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth.” A bu felly.
25. Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn ôl eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
26. Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear.”