Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 5:9-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.

10. Y mae ein croen wedi duo fel ffwrnoherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.

11. Treisir gwragedd yn Seion,a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.

12. Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,ac ni pherchir yr henuriaid.

13. Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin,a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.

14. Gadawodd yr henuriaid y porth,a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.

15. Diflannodd llawenydd o'n calonnau,a throdd ein dawnsio yn alar.

16. Syrthiodd y goron oddi ar ein pen;gwae ni, oherwydd pechasom.

17. Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol,ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:

18. am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch,a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.

19. Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.

20. Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd,ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?

21. ARGLWYDD, tyn ni'n ôl atat, ac fe ddychwelwn;adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,

22. os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr,ac yn ddig iawn wrthym.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 5