3. Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau,a'n mamau fel gweddwon.
4. Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn,a phrynu'r coed a gawn.
5. Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir;yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
6. Gwnaethom gytundeb â'r Aifft,ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
7. Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach;ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
8. Caethweision sy'n llywodraethu arnom,ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
9. Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
10. Y mae ein croen wedi duo fel ffwrnoherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.