Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 4:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O fel y pylodd yr aur,ac y newidiodd yr aur coeth!Gwasgarwyd meini'r cysegrym mhen pob stryd.

2. Plant gwerthfawr Seion,a oedd yn werth eu pwysau mewn aur,yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd,gwaith dwylo crochenydd!

3. Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r froni roi sugn i'w hepil,ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon,fel estrys yn yr anialwch.

4. Y mae tafod y plentyn sugnoyn glynu wrth ei daflod o syched;y mae'r plant yn cardota bara,heb neb yn ei roi iddynt.

5. Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithionyn ddiymgeledd yn y strydoedd,a'r rhai a fagwyd mewn ysgarladyn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

6. Y mae trosedd merch fy mhoblyn fwy na phechod Sodom,a ddymchwelwyd yn ddisymwthheb i neb godi llaw yn ei herbyn.

7. Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira,yn wynnach na llaeth;yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel,a'u pryd fel saffir.

8. Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu,ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd;crebachodd eu croen am eu hesgyrn,a sychodd fel pren.

9. Yr oedd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn fwy ffodusna'r rhai oedd yn marw o newyn,oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni,wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.

10. Yr oedd gwragedd tynergalon â'u dwylo eu hunainyn berwi eu plant,i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain,pan ddinistriwyd merch fy mhobl.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 4