53. Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew,ac yn taflu cerrig arnaf.
54. Llifodd y dyfroedd trosof,a dywedais, “Y mae ar ben arnaf.”
55. Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD,o waelod y pydew.
56. Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddari'm cri am gymorth.”
57. Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat;dywedaist, “Paid ag ofni.”
58. Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos,ac yn gwaredu fy mywyd.
59. Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi,a dyfernaist o'm plaid.
60. Gwelaist eu holl ddial,a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.