Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 3:16-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Torrodd fy nannedd â cherrig,a gwneud imi grymu yn y lludw.

17. Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch;anghofiais beth yw daioni.

18. Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth,a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.”

19. Cofia fy nhrallod a'm crwydro,y wermod a'r bustl.

20. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad,ac wedi fy narostwng.

21. Meddyliaf yn wastad am hyn,ac felly disgwyliaf yn eiddgar.

22. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD,ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.

23. Y maent yn newydd bob bore,a mawr yw dy ffyddlondeb.

24. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan,am hynny disgwyliaf wrtho.”

25. Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo,i'r rhai sy'n ei geisio.

26. Y mae'n dda disgwyl yn dawelam iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

27. Da yw bod un yn cymryd yr iau arnoyng nghyfnod ei ieuenctid.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 3