Hen Destament

Testament Newydd

Galarnad 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl!Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw,a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.

2. Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,a dagrau ar ei gruddiau;nid oes ganddi neb i'w chysuroo blith ei holl gariadon;y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,ac wedi troi'n elynion iddi.

3. Aeth Jwda i gaethglud mewn trallodac mewn gorthrwm mawr;y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,ond heb gael lle i orffwys;y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddydyng nghanol ei gofidiau.

4. Y mae ffyrdd Seion mewn galaram nad oes neb yn dod i'r gwyliau;y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,a'i hoffeiriaid yn griddfan;y mae ei merched ifainc yn drallodus,a hithau mewn chwerwder.

5. Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,a llwyddodd ei gelynion,oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arnio achos amlder ei throseddau;y mae ei phlant wedi mynd ymaithyn gaethion o flaen y gelyn.

6. Diflannodd y cyfan o'i hanrhydeddoddi wrth ferch Seion;y mae ei thywysogion fel ewigodsy'n methu cael porfa;y maent wedi ffoi, heb nerth,o flaen yr erlidwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Galarnad 1