8. Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, “Gweddïwch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD.”
9. Dywedodd Moses wrth Pharo, “Gad imi wybod pryd yr wyf i weddïo drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig.” Meddai yntau, “Yfory.”
10. Dywedodd Moses, “Fel y mynni di; cei wybod wedyn nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein Duw ni.
11. Bydd y llyffaint yn ymadael â thi a'th dai, ac â'th weision a'th bobl, ac ni cheir hwy yn unman ond yn y Neil.”
12. Yna aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a galwodd Moses ar yr ARGLWYDD ynglŷn â'r llyffaint a ddygodd ar Pharo.
13. Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd.
14. Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi.
15. Pan welodd Pharo ei fod wedi cael ymwared ohonynt, caledodd ei galon a gwrthododd wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
16. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Estyn dy wialen a tharo llwch y ddaear, ac fe dry'n llau trwy holl wlad yr Aifft.’ ”
17. Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear â'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd.
18. Ceisiodd y swynwyr hefyd ddwyn llau allan trwy eu gallu cyfrin, ond nid oeddent yn medru. Yr oedd y llau ar ddyn ac anifail.