1. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses: “Dos at Pharo a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt fy addoli;
2. os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn taro dy holl dir â phla o lyffaint.
3. Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th dŷ ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino.
4. Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.’ ”
5. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.’ ”
6. Felly estynnodd Aaron ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dringodd y llyffaint i fyny nes gorchuddio'r tir.
7. Ond trwy eu gallu cyfrin yr oedd y swynwyr hefyd yn medru gwneud i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.
8. Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, “Gweddïwch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD.”
9. Dywedodd Moses wrth Pharo, “Gad imi wybod pryd yr wyf i weddïo drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig.” Meddai yntau, “Yfory.”
10. Dywedodd Moses, “Fel y mynni di; cei wybod wedyn nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein Duw ni.
11. Bydd y llyffaint yn ymadael â thi a'th dai, ac â'th weision a'th bobl, ac ni cheir hwy yn unman ond yn y Neil.”
12. Yna aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a galwodd Moses ar yr ARGLWYDD ynglŷn â'r llyffaint a ddygodd ar Pharo.
13. Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd.
14. Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi.