Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 4:20-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn ôl i wlad yr Aifft, â gwialen Duw yn ei law.

21. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd.

22. Llefara wrth Pharo, ‘Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: Israel yw fy mab cyntafanedig,

23. ac yr wyf yn dweud wrthyt am ollwng fy mab yn rhydd er mwyn iddo f'addoli, ond gwrthodaist ei ollwng yn rhydd, felly fe laddaf dy fab cyntafanedig di.’ ”

24. Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD â Moses a cheisio'i ladd.

25. Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, “Yr wyt yn briod imi trwy waed.”

26. Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, “Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu.”

27. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod â Moses.” Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu.

28. Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud.

29. Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel,

30. a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngŵydd y bobl.

31. Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld â phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 4