Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 38:4-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Gwnaeth hefyd ar gyfer yr allor rwyll o rwydwaith pres, a'i gosod dan ymyl yr allor fel ei bod yn ymestyn at hanner yr allor.

5. Gwnaeth bedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith, i gymryd y polion.

6. Gwnaeth y polion o goed acasia, a rhoi haen o bres drostynt; rhoddodd hwy drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.

7. Fe'i gwnaeth ag astellau, yn wag oddi mewn.

8. Gwnaeth noe, a throed iddi, o ddrychau pres y gwragedd a oedd yn gwasanaethu wrth ddrws pabell y cyfarfod.

9. Yna gwnaeth y cyntedd. Ar yr ochr ddeheuol yr oedd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;

10. yr oedd hefyd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

11. Yr un modd, ar yr ochr ogleddol yr oedd llenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

12. Ar yr ochr orllewinol yr oedd llenni hanner can cufydd o hyd, ynghyd â deg colofn a deg troed; yr oedd bachau'r colofnau a'u cylchau o arian.

13. Yr oedd yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, yn hanner can cufydd.

14. Yr oedd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,

15. a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd â thair colofn a thri throed.

16. Yr oedd yr holl lenni o amgylch y cyntedd o liain main wedi ei nyddu.

17. Yr oedd traed y colofnau o bres, ond yr oedd eu bachau a'u cylchau o arian; yr oedd pen uchaf y colofnau o arian, ac yr oedd holl golofnau'r cyntedd wedi eu cylchu ag arian.

18. Yr oedd y llen ym mhorth y cyntedd wedi ei brodio o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu; yr oedd yn ugain cufydd o hyd, a phum cufydd o led, ac yn cyfateb i lenni'r cyntedd.

19. Yr oedd y pedair colofn, a'u pedwar troed, o bres; y bachau, pen uchaf y colofnau, a'u cylchau, o arian.

20. Yr oedd holl hoelion y tabernacl a'r cyntedd oddi amgylch o bres.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 38