13. Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
14. Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrâm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.
15. Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
16. Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.
17. Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.
18. Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
19. Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
20. Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;
21. ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
22. Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
23. Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.
24. Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.
25. Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
26. Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.