Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 35:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

32. er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres,

33. a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.

34. Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill.

35. Llanwodd hwy â'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 35