Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 33:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Byddai'r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y bydd rhywun yn siarad â'i gyfaill. Pan ddychwelai Moses i'r gwersyll, ni fyddai ei was ifanc, Josua fab Nun, yn symud o'r babell.

12. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod â'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, ‘Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.’

13. Yn awr, os cefais ffafr yn dy olwg, dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod ac aros yn dy ffafr; oherwydd dy bobl di yw'r genedl hon.”

14. Atebodd yntau, “Byddaf fi fy hun gyda thi, a rhoddaf iti orffwysfa.”

15. Dywedodd Moses wrtho, “Os na fyddi di dy hun gyda mi, paid â'n harwain ni ymaith oddi yma.

16. Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear.”

17. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Fe wnaf yr hyn a ofynnaist, oherwydd cefaist ffafr yn fy ngolwg, ac yr wyf wedi dy ddewis.”

18. Meddai Moses, “Dangos i mi dy ogoniant.”

19. Dywedodd yntau, “Gwnaf i'm holl ddaioni fynd heibio o'th flaen, a chyhoeddaf fy enw, ARGLWYDD, yn dy glyw; a dangosaf drugaredd a thosturi tuag at y rhai yr wyf am drugarhau a thosturio wrthynt.

20. Ond,” meddai, “ni chei weld fy wyneb, oherwydd ni chaiff neb fy ngweld a byw.”

21. Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd, “Bydd lle yn fy ymyl; saf ar y graig,

22. a phan fydd fy ngogoniant yn mynd heibio, fe'th roddaf mewn hollt yn y graig a'th orchuddio â'm llaw nes imi fynd heibio;

23. yna tynnaf ymaith fy llaw, a chei weld fy nghefn, ond ni welir fy wyneb.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 33