Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 33:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos gyda'r bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft, ac ewch i fyny oddi yma i'r wlad y tyngais wrth Abraham, Isaac a Jacob ei rhoi i'th ddisgynyddion.

2. Anfonaf angel o'th flaen, a gyrraf allan y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.

3. Dos i wlad yn llifeirio o laeth a mêl, ond ni fyddaf fi'n mynd i fyny gyda thi, rhag i mi dy ddifa ar y ffordd; oherwydd pobl wargaled ydych.”

4. Pan glywodd y bobl y newydd drwg hwn, dechreusant alaru, ac ni wisgodd neb ei dlysau,

5. oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pobl wargaled ydych; pe bawn yn mynd i fyny gyda chwi, gallwn eich difa'n ddirybudd. Tyn dy dlysau oddi arnat, ac fe benderfynaf beth i'w wneud â thi.’ ”

6. Felly tynnodd pobl Israel eu tlysau ger Mynydd Horeb.

7. Arferai Moses gymryd pabell a'i gosod y tu allan i'r gwersyll, bellter oddi wrtho, ac fe'i galwodd yn babell y cyfarfod. Yr oedd pob un a fyddai'n ceisio'r ARGLWYDD yn mynd at babell y cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 33