Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 32:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd.

20. Cymerodd y llo a wnaethant, a'i losgi â thân; fe'i malodd yn llwch a'i gymysgu â dŵr, a gwnaeth i bobl Israel ei yfed.

21. Dywedodd Moses wrth Aaron, “Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, i beri iti ddwyn arnynt y fath bechod?”

22. Atebodd Aaron ef: “Paid â digio, f'arglwydd; fe wyddost am y bobl, eu bod â'u bryd ar wneud drygioni.

23. Dywedasant wrthyf, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft’.

24. Dywedais innau wrthynt, ‘Y mae pawb sydd â thlysau aur ganddynt i'w tynnu i ffwrdd’. Rhoesant yr aur i mi, ac fe'i teflais yn y tân; yna daeth y llo hwn allan.”

25. Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion.

26. Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, “Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi.” Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,

27. a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn ôl a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.’ ”

28. Gwnaeth meibion Lefi yn ôl gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.

29. Dywedodd Moses, “Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn.”

30. Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, “Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod.”

31. Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, “Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur.

32. Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist.”

33. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 32