Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 31:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Penodais hefyd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, i'w gynorthwyo. Rhoddais ddawn i bob crefftwr i wneud y cyfan a orchmynnais iti:

7. pabell y cyfarfod, arch y dystiolaeth a'r drugareddfa sydd arni, holl ddodrefn y babell,

8. y bwrdd a'i lestri, y canhwyllbren o aur pur a'i holl lestri, allor yr arogldarth,

9. allor y poethoffrwm a'i holl lestri, y noe a'i throed,

10. y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n wisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion, er mwyn iddynt hwythau wasanaethu fel offeiriaid,

11. olew yr eneinio, a'r arogldarth peraidd ar gyfer y cysegr. Y maent i'w gwneud yn union fel y gorchmynnais i ti.”

12. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

13. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru.

14. Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth.

15. Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth.

16. Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tragwyddol.

17. Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.’ ”

18. Wedi iddo orffen llefaru wrth Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwy lech y dystiolaeth, llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 31