Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 30:20-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agosáu at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn tân i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi â'r dŵr, rhag iddynt farw.

21. Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau.”

22. Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses,

23. “Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd,

24. a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden.

25. Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio.

26. Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth,

27. y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth,

28. allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.

29. Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda â hwy hefyd yn gysegredig.

30. Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid.

31. Yna dywed wrth bobl Israel, ‘Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau.

32. Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.

33. Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.’ ”

34. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd â'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un,

35. a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru â halen i'w wneud yn bur a chysegredig.

36. Cura beth ohono'n fân a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod â thi; bydd yn gysegredig iawn gennych.

37. Peidiwch â gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD.

38. Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl.”

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 30