Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:9-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.

10. “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;

11. yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.

12. Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.

13. Cymer yr holl fraster sydd am y perfedd, y croen am yr iau, a'r ddwy aren gyda'r braster, a'u llosgi ar yr allor.

14. Ond llosga gig y bustach, ei groen a'r gwehilion, â thân y tu allan i'r gwersyll; aberth dros bechod ydyw.

15. “Cymer un o'r hyrddod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;

16. yna lladd di'r hwrdd a chymryd ei waed a'i daenu o amgylch yr allor.

17. Tor ef yn ddarnau, ac wedi golchi ei berfedd a'i goesau, gosod hwy gyda'r darnau a'r pen;

18. yna llosga'r hwrdd i gyd ar yr allor. Poethoffrwm i'r ARGLWYDD ydyw; y mae'n arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

19. “Cymer yr hwrdd arall, a gwna i Aaron a'i feibion osod eu dwylo ar ei ben;

20. yna lladd di'r hwrdd a chymer beth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron a'i feibion, ac ar fodiau de eu dwylo a'u traed, a thaenella weddill y gwaed o amgylch yr allor.

21. Yna cymer beth o'r gwaed a fydd ar yr allor, a pheth o olew'r ennaint, a'u taenellu ar Aaron a'i feibion, ac ar eu dillad; byddant hwy a'u dillad yn gysegredig.

22. “Cymer o'r hwrdd y braster, y gloren, y braster am y perfedd, y croen am yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde; oherwydd hwrdd yr ordeinio ydyw.

23. O fasged y bara croyw sydd gerbron yr ARGLWYDD cymer un dorth, un gacen wedi ei gwneud ag olew, ac un deisen;

24. rho'r cyfan yn nwylo Aaron a'i feibion, a'i chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

25. Yna cymer hwy o'u dwylo a'u llosgi ar yr allor gyda'r poethoffrwm yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD; offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD ydyw.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29