9. rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.
10. “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
11. yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12. Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.
13. Cymer yr holl fraster sydd am y perfedd, y croen am yr iau, a'r ddwy aren gyda'r braster, a'u llosgi ar yr allor.
14. Ond llosga gig y bustach, ei groen a'r gwehilion, â thân y tu allan i'r gwersyll; aberth dros bechod ydyw.
15. “Cymer un o'r hyrddod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
16. yna lladd di'r hwrdd a chymryd ei waed a'i daenu o amgylch yr allor.
17. Tor ef yn ddarnau, ac wedi golchi ei berfedd a'i goesau, gosod hwy gyda'r darnau a'r pen;
18. yna llosga'r hwrdd i gyd ar yr allor. Poethoffrwm i'r ARGLWYDD ydyw; y mae'n arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
19. “Cymer yr hwrdd arall, a gwna i Aaron a'i feibion osod eu dwylo ar ei ben;
20. yna lladd di'r hwrdd a chymer beth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde Aaron a'i feibion, ac ar fodiau de eu dwylo a'u traed, a thaenella weddill y gwaed o amgylch yr allor.
21. Yna cymer beth o'r gwaed a fydd ar yr allor, a pheth o olew'r ennaint, a'u taenellu ar Aaron a'i feibion, ac ar eu dillad; byddant hwy a'u dillad yn gysegredig.