Hen Destament

Testament Newydd

Exodus 29:35-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

35. “Gwna i Aaron a'i feibion yn union fel y gorchmynnais iti, a chymer saith diwrnod i'w hordeinio.

36. Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod; gwna hefyd gymod dros yr allor wrth iti offrymu aberth dros bechod, ac eneinia'r allor i'w chysegru.

37. Am saith diwrnod yr wyt i wneud cymod dros yr allor a'i chysegru; felly bydd yr allor yn gysegredig, a bydd beth bynnag a gyffyrdda â hi hefyd yn gysegredig.

38. “Dyma'r hyn yr wyt i'w offrymu ar yr allor yn gyson bob dydd:

39. dau oen blwydd, un i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr.

40. Gyda'r oen cyntaf offryma ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur, a chwarter hin o win yn ddiodoffrwm.

41. Offryma'r oen arall yn yr hwyr, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, fel yn y bore, i fod yn arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

42. Bydd hwn yn boethoffrwm gwastadol dros y cenedlaethau wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD; yno byddaf yn cyfarfod â chwi i lefaru wrthych.

43. Yn y lle hwnnw byddaf yn cyfarfod â phobl Israel, ac fe'i cysegrir trwy fy ngogoniant.

44. Cysegraf babell y cyfarfod a'r allor; cysegraf hefyd Aaron a'i feibion i'm gwasanaethu fel offeiriaid.

45. Byddaf yn preswylio ymhlith pobl Israel, a byddaf yn Dduw iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Exodus 29